Pwy sydd ag Arfau Niwclear?
Gwlad | Tua faint o arfau niwclear |
---|---|
Rwsia | 6,255 |
Unol Daleithau | 5,550 |
Tsieina | 350 |
Ffrainc | 290 |
Prydain | 260 |
Pacistan | 165 |
India | 156 |
Israel | 90 |
Gogledd Corea | 40-50 |
Yr Unol Daleithau, Rwsia, Prydain, Ffrainc a China yw’r pum gwlad a arwyddodd y Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear (CAY) yn 1970 gan ddatgan eu bod yn wledydd ag arfau niwclear.
Nid yw Israel, India neu Phacistan wedi arwyddo’r CAY erioed, ond maent wedi bod yn datblygu arfau niwclear ers 1970. Mae Israel yn dal i wrthod cadarnhau’n swyddogol bod ganddi arfau niwclear, er bod y CIA yn dweud bod ganddi rai ers y 1970au. Datgelwyd y manylion am arfau niwclear Israel i bapurau newydd Prydain ym 1986 gan Mordechai Vanunu, technegydd mewn gorsaf niwclear yn Israel, a herwgipiwyd wedyn gan wasanaeth cudd Israel tra’r oedd yn Rhufain, a’i ddedfrydu i 18 mlynedd o garchar.
Arwyddodd Gogledd Corea y CAY yn wreiddiol, ond tynnodd allan ohono yn 2003.
Arferai pedair gwlad arall fod ag arfau niwclear, ond nid oes ganddynt rai bellach:
Cyfaddefodd De Affrica ei bod wedi datblygu arfau niwclear yn y 1970au, ond cafodd wared ohonynt oll ym 1991; roedd gan Wcráin, Belarus a Casachstan, a oedd gynt yn rhan o’r Undeb Sofietaidd, arfau niwclear Sofietaidd ar eu tiriogaeth pan ddatgymalodd yr Undeb Sofietaidd, ond maent bellach wedi eu dinistrio neu wedi eu danfod yn ôl i Rwsia.
Mae gan 39 o wledydd eraill yn y byd, yn cynnwys Iran, adweithyddion ymchwil neu bŵer niwclear, a’r posibilrwydd, felly, o allu cynhyrchu arfau niwclear. Fodd bynnag, mae’r cwbl bron wedi dewis peidio â bod ag arfau niwclear ac wedi arwyddo cytundebau i’r perwyl hwnnw. Mae llawer o wledydd wedi arwyddo i fod yn rhan o barthau di-arfau-niwclear eang hefyd – De-ddwyrain Asia, Canolbarth Asia, De’r Môr Tawel, America Ladinaidd, ac Affrica.