Trwy ddefnyddio CNDCymru.org rydych yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau hyn, a ddaw i rym y tro cyntaf y defnyddiwch CNDCymru.org. Os na chytunwch i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan yr holl delerau canlynol, peidiwch ag ymweld â neu ddefnyddio CNDCymru.org
Gall CNDCymru.org newid y telerau hyn unrhyw bryd trwy bostio newidiadau ar-lein. Edrychwch ar y telerau hyn yn gyson i sicrhau y gwyddoch am unrhyw newidiadau. Mae parhau i ddefnyddio CNDCymru.org wedi i newidiadau gael eu postio yn golygu cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau a ddiweddarwyd/ddiwygiwyd.
Defnyddio CNDCymru.org
Ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu, trosglwyddo, cyfleu cynnwys CNDCymru.org i’r cyhoedd na’i ddefnyddio mewn unrhyw fodd ac eithrio at eich defnydd personol, anfasnachol eich hun. Rydych yn cytuno hefyd i beidio ag addasu, adnewid neu greu gwaith sy’n deillio o gynnwys CNDCymru.org ac eithrio at eich defnydd personol, anfasnachol eich hun. Am unrhyw ddefnydd arall o gynnwys CNDCymru.org bydd angen caniatâd ysgrifenedig CND Cymru o flaen llaw.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio CNDCymru.org at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tramgwyddo hawliau, cyfyngu ar neu atal defnydd a mwynhad neb arall o CNDCymru.org Mae ymddygiad gwaharddedig yn cynnwys erlid neu beri gofid neu anghyfleustra i unrhyw un, trosglwyddo cynnwys anweddus neu annymunol, neu amharu ar rediad arferol dialog o fewn CNDCymru.org
Ymwadiad a Therfynau ar Atebolrwydd
Darperir cynnwys CNDCymru.org yn cynnwys gwybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau yn ymwneud â neu’n gysylltiedig ag CND Cymru “FEL Y MAE” ac ar sail “AR GAEL” heb gynnig dim cynrychiolaeth neu unrhyw fath o warant (boed yn eglur neu’n ddealledig yn y gyfraith) i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, yn cynnwys gwarantau dealledig o ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben neilltuol, parch i hawlfraint, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb.
Nid fydd CND Cymru o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw un o’r colledion neu’r niweidiau canlynol (boed y fath golledion wedi eu rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall): (a) colli data; (b) colli refeniw neu elw a ragwelid; (c) colli busnes; (ch) colli cyfle; (d) colli ewyllys da neu niwed i enw da; (dd) colledion a ddioddefwyd gan drydydd parti; neu (e) unrhyw iawndal anuniongyrchol, ôl-ddilynol, arbennig neu gosbedigaethol yn deillio o ddefnyddio CNDCymru.org ni waeth sut y gweithredwyd.
Nid yw CNDCymru.org yn gwarantu y bydd swyddogaethau a gynhwysir yn CNDCymru.org yn gweithredu’n ddi-fwlch neu’n ddi-fai, y caiff diffygion eu cywiro, na bod CNDCymru.org na’r gweinydd sy’n ei ddarparu yn rhydd o feirysau ac ati.
Ymwadiad ynglŷn â chysylltau
Darperir pob cyswllt er hwylustod ein defnyddwyr. Nid oes gennym reolaeth dros, na chyfrifoldeb am, unrhyw gynnwys/gwybodaeth a ganfyddir neu a ddefnyddir pan ymwelir ag unrhyw wefan yn perthyn i drydydd parti, ac nid ydym yn mynegi barn parthed eu cywirdeb neu unrhyw agwedd arall arnynt. Ni ddylid ystyried y ffaith y darparwyd cyswllt i wefan trydydd parti fel cymeradwyaeth echblyg neu ymhlyg gennym o unrhyw gynnwys/gwybodaeth, nwyddau/gwasanaethau a all fod ar gael i chi trwy’r trydydd parti.
Eiddo Deallusol
Mae’r hawlfraint yn y deunydd sydd wedi ei gynnwys ar y wefan hon, dyluniad, testun a graffeg, a’r detholiad ohonynt a’r modd y trefnwyd hwy, a phob crynhoad meddalwedd, cod ffynhonnell sylfaenol a meddalwedd (yn cynnwys apledau) yn perthyn i CNDCymru.org neu i ddarparwyr y fath wybodaeth. Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu neu ailddosbarthu dim o’r deunydd hwn heb ein caniatâd ysgrifenedig. Cewch, fodd bynnag, lawrlwytho neu argraffu un copi y gellwch edrych arno oddi ar-lein i’ch dibenion anfasnachol eich hun.
Gall enwau nwyddau a chwmnïau a grybwyllir ar y wefan hon fod yn fasnachnodau neu fasnachnodau cofrestredig eu perchenogion.
Y gyfraith lywodraethol
Mae’r amodau a’r telerau hyn yn cael eu rheoli gan gyfraith Prydain, ac maent i’w dehongli yn unol â hi. Bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdod llysoedd Prydain yn unig.