Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin.
2. Yn mynegi undod â phobl Wcráin.
3. Yn cydnabod bod pobl Wcráin yn dioddef o ganlyniad i golli bywyd ac anafiadau, gan dalu’r pris am y rhyfel erchyll hwn.
4. Yn cydnabod hawliau NATO i amddiffyn ei aelodau ac yn cefnogi Llywodraeth Wcráin wrth iddi amddiffyn ei gwlad.
5. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i’r rhai mewn angen a lloches ddiogel i’r rhai sy’n dianc rhag y gwrthdaro.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i:
a) cyflwyno proses fisa gyflym i sicrhau dulliau syml, cyflym, diogel a chyfreithlon o gyrraedd noddfa yn y DU;
b) dileu’r gofyniad i Wcraniaid ddarparu tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin;
c) rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau adsefydlu a’r cyllid dilynol y bydd ei angen i gefnogi’r ymdrechion adsefydlu.
7. Yn cydnabod bod y gwrthdaro hwn yn cynyddu’r risg o ryfel niwclear ac ofn rhyfel niwclear ymhlith pobl yng Nghymru a thu hwnt, ac felly’n galw ar bob gwladwriaeth, gan gynnwys y gwladwriaethau niwclear i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2021, ac a fyddai’n atal bygythiad o’r fath yn y dyfodol.
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
26 | 15 | 13 | 54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. (9fed Mawrth 2022)
Gallwch weld sut mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio yma