Lakenheath

Mae’r UD yn paratoi i uwchraddio’r arfau niwclear sydd ganddi yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal a Thwrci, a chytunodd llywodraeth y DU – heb drafodaeth yn senedd San Steffan – i ganiatáu i’r UD leoli arfau niwclear yn y DU unwaith eto, yn RAF Lakenheath, Suffolk.


Lleolwyd arfau niwclear yr UD yn Lakenheath o 1954 tan 2008, pan gafodd y 110 bom niwclear olaf eu symud oddi yno.


Dyw arfau niwclear yr UD ddim yn ein diogelu ond yn ein gwneud yn darged, a’n clymu wrth bolisi tramor yr UD. Dim ond yn cynyddu tensiynau rhwng Rwsia ac Ewrop a wna lleoli mwy o arfau niwclear yr UD yn Ewrop yn ystod rhyfel Rwsia yn Wcráin.


Yr UD yw’r unig wladwriaeth yn y byd i leoli ei harfau niwclear y tu allan i’w ffiniau ei hun.
Rhaid i ni atal Arfau Niwclear yr UD rhag dychwelyd i dir Prydain!

Cafodd Cynghrair Lakenheath dros Heddwch, cynghrair o dros 40 o sefydliadau, yn cynnwys CND Cymru, ei lansio ddydd Mawrth 26 Mawrth 2024 gyda 12 o brotestwyr yn cyflwyno llythyr i bennaeth safle USAF Lakenheath i ddweud nad ydym eisiau arfau niwclear yr UD yn y DU.

Fideo o’r Gwersyll Protest Rhyngwladol 13eg i 25ain mis Mehefin yma.


O’r 31ain Awst 2025, bydd Cynghrair Lakenheath dros Heddwch yn cynnal gwylnos 2 awr ar y dydd Sadwrn ola’ bob mis (heblaw mis Rhagfyr).

YMUNWCH Â NI am y Gwersyll Heddwch nesa’ Dydd Llun 14eg i’r Dydd Gwener 25ain o fis Ebrill 2025.

Mwy o wybodaeth yma: https://lakenheathallianceforpeace.org.uk/sign-up/