*yn ôl arolwg barn Survation
Mae CND Cymru – yr Ymgyrch Dros Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru – yn ymgyrchu, ochr yn ochr â grwpiau ac unigolion eraill, i gael gwared ag arfau Niwclear a phob arfau dinistr torfol o Brydain a’r byd. Rydyn ni’n ymgyrchu hefyd dros heddwch a chyfiawnder i bobl a’r amgylchedd, ac yn erbyn y fasnach arfau. Darllenwch mwy am ein nodau ac amcanion fan hyn.
Arfau Niwclear
Pwy sydd ag Arfau Niwclear?
Effeithiau Arfau Niwclear
System arfau niwclear Prydeinig yw Trident. Mae’n cynnwys pedwar llong danfor gydag arfau niwclear, a yrrir gan ynni niwclear, gydag un ohonynt ar batrôl trwy’r amser dan y môr. Mae gan bob llong danfor Trident hyd at 40 arfben Niwclear, a gall bob un ohonot gael ei hanfon at nod gwahanol. Mae gan bob arfben pŵer ffrwydrol hyd at 100 cilo-tunnell, hynny yw 100,000 tunnell o ffrwydron ffyrnig confensiynol. Mae hyn yn 8 waith mwy grymus na’r bom atomig a dinistriwyd Hiroshima ym 1945, a lladdwyd tua 140,000 o bobl.
Trident a’i Olynydd
Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear
Mae cytundeb y Cenhedloedd Unedig yn gwahardd gwladwriaethau rhag datblygu, profi, cynhyrchu, gwneuthur, trosglwyddo, meddu, crynhoi, defnyddio neu fygwth defnyddio arfau niwclear, neu ganiatáu cadw neu leoli arfau niwclear gwlad arall ar eu tiriogaeth nhw. Mae’r cytundeb hefyd yn gwahardd gwladwriaethau rhag cynorthwyo, annog neu gymell unrhyw un i weithredu yn yr un o’r ffyrdd hynny.
Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear
Pleidleisiodd y Senedd i gefnogi’r CWAN fel rhan o gynnig ar
Ukrain
Ynni niwclear
Mae’r adwaith cadwyn y tu fewn i graidd adweithydd niwclear yn cynhyrchu plwtoniwm, y gellir ei wahanu o’r tanwydd gwastraff a’i ailbrosesu i wneud arfau niwclear. Mewn gwirionedd, cynllun cyfrinachol i gynhyrchu plwtoniwm ar gyfer y bomiau atomig cyntaf oedd project Atomau dros Heddwch llywodraeth y DU yn y 1950au. Cadarnhawyd bellach y defnyddiwyd Trawsfynydd ac Wylfa A hwythau i’r diben hwnnw. O’r cychwyn, dwy ochr i’r un geiniog oedd ynni niwclear milwrol a ‘sifil’.
Ynni Niwclear
Dyddiadur Fukushima
Gwastraff Niwclear
Gwastraff Niwclear
Arfau Niwclear yr UDA i ddod yn ôl i Prydain ?
Lakenheath
Rhagor o wybodaeth:
Dadl Adnewyddu Trident yn San Steffan 18fed Gorffennaf 2016
Dadl Adnewyddu Trident yn y Cynulliad 18fed Tachwedd 2015
Militareiddio Cymru