Beth mae’r cytundeb yn ei wahardd?
Mae cytundeb y Cenhedloedd Unedig yn gwahardd gwladwriaethau rhag datblygu, profi, cynhyrchu, gwneuthur, trosglwyddo, meddu, crynhoi, defnyddio neu fygwth defnyddio arfau niwclear, neu ganiatáu cadw neu leoli arfau niwclear gwlad arall ar eu tiriogaeth nhw. Mae’r cytundeb hefyd yn gwahardd gwladwriaethau rhag cynorthwyo, annog neu gymell unrhyw un i weithredu yn yr un o’r ffyrdd hynny.
Rhagor o wybodaeth Papur Cefndir CWAN
Pa gwledydd sydd wedi llofnodi neu gadarnhau’r cytundeb ?
Gallech chi weld pa gwledydd sydd wedi llofnodi ac / neu gadarnhau’r cytundeb yma
Felly beth mae angen i ni ymgyrchu arno yn awr?
Dydy’r gwaith ddim yn gorffen fan yma – yn wir, ar lawer ystyr, dechrau y mae! Bydd CND Cymru yn cefnogi grwpiau heddwch eraill ledled y byd, er mwyn annog cymaint o wledydd ag sy’n bosibl i arwyddo a chadarnhau’r cytundeb, i sicrhau bod y cytundeb yn dod i rym ac yn creu norm cryf yn erbyn arfau niwclear a fydd yn arwain at ddiarfogi niwclear. Mae hyn yn waith tymor-hir. Ni fydd yn digwydd dros nos.
Rhaid i’n gwaith yma yng Nghymru yn erbyn arfau niwclear barhau ochr yn ochr â, ac yng ngoleuni, y datblygiad rhyngwladol aruthrol bwisig yma. Ni chawn Brydain i arwyddo heb i ni ddarbwyllo’r mwyafrif o bobl – a’r mwyafrif o wleidyddion – y byddwn ni (a phawb arall) yn fwy diogel heb arfau niwclear.
Beth gallech chi nweud
Ysgrifennwch at eich ASau yn gofyn iddynt llofnodi’r Addewid Seneddol. Er bod llwyodraeth Brydein yn hollol yn erbyn y cytundeb, mae angen arnyn ni ddangos cefnogaeth sylweddol oddi wrth ein gwleidyddion etholiedig.
Ysgrifennwch at eich Cynghorydd Sir neu Dinas yn gofyn iddynt gefnogi cynnig i’r cyngor cefnogi Apêl Dinasoedd ICAN.
Ysgrifennwch at Arweinwyr Ffydd yn gofyn iddynt llofnodi’r Addewid Arweinwyr Ffydd i gefnogi’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear.
Mae posteri ar gael yma
Casglwch lofnodion ar y ddeiseb yn erbyn Trident ac yn cefnogi’r cytundeb.
Yn rhywngladol, ysgriffenwch at llysgenhadon neu llwyodraethau gwlededd yn gofyn iddynt llofnodi a chadarnhau’r cytundeb. Mae llythyrau unigol, yn arbennig mewn un o’r ieithoedd swyddogol y wlad, yn cael y dylanwad mwyaf; ond cofiwch dweud ein bod ni eisiau gweld eu gwlad nhw, a phob gwlad, yn llofnodi, gan gynnwys ein gwlad ni !