Addewid Arweinwyr Ffydd i gefnogi’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear
“Fel arweinydd ffydd, rwy’n croesawu gweld Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear y Cenhedloedd Unedig yn dod i rym ar yr 22ain o fis Ionawr, 2021. Ystyriaf y cam hwn yn un pwysig ar y daith tuag at weld byd sy’n rhydd o arfau niwclear. Rwy’n rhannu’r pryder dwfn a fynegir yn rhagymadrodd y Cytundeb ynghylch canlyniadau defnyddio unrhyw arf niwclear. Byddai hyn yn gwbl drychinebus i ddynoliaeth. O’r herwydd rwyf o’r farn y dylid cael gwared ar yr arfau creulon ac annynol hyn. Rwy’n addo i ddadlau’r achos moesol dros y Cytundeb hwn ac yn galw ar lywodraeth y DU i i’w gadarnhau a’i lofnodi.”
Pwy all arwyddo: Gall unrhyw un sydd mewn rôl arweinyddol o fewn eu cymuned ffydd lofnodi’r Addewid.
Pwy sydd wedi arwyddo: yn dod yn fuan !
Ydy’ch arweinwr / arweinwraig ffydd wedi arwyddo ? Os nad ydynt, beth am ysgrifennu atyn, gyda’r addewid, yn gofyn iddynt arwyddo ?