Copïwch, newidiwch ac anfonwch y llythyr isod at eich AS, os gwelwch yn dda – a thasech chi’n cael ateb, anfonwch gopi ohono at heddwch@cndcymru.org
Annwyl …
Mae’n ofid mawr i mi, fel chithau dwi’n siŵr, fod yr argyfwng dyngarol a’r rhyfel yn yr Yemen yn parhau. Torcalonnus yw clywed am y newyn a’r erchyllterau yn y wlad, y drychineb ddyngarol waethaf yn y byd gydag 80% o’r boblogaeth yn dioddef o ddiffyg bwyd, dwr meddyginiaeth a lloches. Mae perygl i fywydau 12 miliwn o blant medd UNICEF.
Does dim amheuaeth fod cefnogaeth Saudi Arabia i’r rhyfel ers 2015 wedi cyfrannu a dwysau’r gyflafan. Mae mwy na 20,000 o ymosodiadau gan awyrennau y Glymblaid dan arweiniad Saudi wedi eu cofnodi erbyn hyn.
Gan yr UDA a Phrydain y mae Saudi Arabia yn derbyn y rhan helaethaf o’i awyrennau a’i harfau. Yn ôl James Cleverly gweinidog yn y Swyddfa Dramor mae 40% o werthiant arfau Prydain rhwng 2010-2019 wedi mynd i Saudi Arabia. Yr arfau yma sydd yn cael eu defnyddio i ddinistrio bywydau trigolion Yemen a hynny yn bennaf drwy ymosodiadau gan awyrennau Saudi Arabia. Dyfarnodd yr Uchel Lys yn 2019 fod gwerthu’r arfau yma i Saudi Arabia yn anghyfreithiol. Mae’r dyfarniad wedi ei wrthod bellach (yn 2020) gan y Llywodraeth gan ddadlau bod toriadau posib o gyfraith ddyngarol ryngwladol yn cael eu hystyried yn “ddigwyddiadau ynysig”.
Calonogol iawn oedd ymrwymiad yr Arlywydd Biden i atal cefnogaeth yr UDA i’r gwrthdaro a gwahardd allforio (rhai) arfau a hefyd caniatáu mwy o gymorth dyngarol. Mae gweinidogion Prydain yn gwrthod dilyn ei esiampl ac apeliaf atoch i wrthdroi’r penderfyniad yma.
Fel ateb i gwestiwn seneddol gwyddom fod Prydain hefyd yn rhoi hyfforddiant i luoedd arfog Saudi Arabia. Yma yng Nghymru mae peilotiaid Saudi wedi cael hyfforddiant yn Y Falî ym Môn. Mae’n frawychus ystyried fod rhai o’r peilotiaid sy’n cael hyfforddiant hedfan wrth ein pennau yma yng ngogledd Cymru yn debygol wedyn o fod yn gollwng bomiau ar y diniwed yn yr Yemen.
Apeliaf am eich cefnogaeth. Gallwch wneud hyn drwy gefnogi Cynnig 1399 sydd i ddod ger bron y Senedd. A wnewch chi adael i mi wybod a ydych chi wedi gwneud hynny.
Yn Gywir,
(enw, cyfeiriad a chod post)