Mae CND Cymru yn ymgyrchu’n ddi-drais i waredu’r byd o arfau niwclear a phob arf dinistr torfol arall, ac i greu diogelwch gwirioneddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Byddwn yn cydweithredu â mudiadau heddwch eraill o Gymru, Prydain a rhai rhyngwladol, ond yn canolbwyntio ar arfau niwclear Prydain, gan mai ni sy’n ethol y gwleidyddion sy’n pleidleisio ar yr arfau hyn, a ni sy’n talu am yr arfau hyn trwy ein trethi.
Rydym yn ymgyrchu’n benodol o blaid:
- Diddymu’r system arfau niwclear Trident gan lywodraeth y DU, ac yn erbyn datblygu, prynu neu leoli arfau niwclear eraill, neu ganiatáu lleoli unrhyw arfau niwclear tramor ar dir Prydain, yn awyrofod Prydain, neu yn nyfroedd Prydain
- Cael Llywodraeth y DU i arwyddo a chadarnhau’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW)
- Ufudd-dod rhyngwladol llawn â’r TPNW, y Confensiwn Arfau Cemegol (CWC), a’r Confensiwn Arfau Biolegol (BWC)
- Disodli’r diwydiant ynni niwclear gan dechnolegau ynni adnewyddadwy, oherwydd y cysylltiadau rhwng y diwydiannau niwclear ‘sifil’ a milwrol, a’r rhan y mae pŵer niwclear wedi’i chwarae yn ymlediad arfau niwclear
- Datrys pob gwrthdaro yn heddychlon, gan gydnabod bod yn rhaid wrth gyfiawnder, parch at hawliau dynol, a chynaliadwyedd amgylcheddol i sicrhau heddwch parhaol
Ein nod yw:
- Newid polisïau’r Llywodraeth er mwyn sicrhau dileu arfau niwclear Prydain, a fydd yn gyfraniad mawr at waharddiad byd-eang
- Ysgogi dadl gyhoeddus eang ar yr angen am ffyrdd amgen nag ymdrechion milwrol i ddatrys gwrthdaro
- Grymuso pobl i gyfranogi’n weithredol yn y broses wleidyddol ac i weithio o blaid dyfodol di-niwclear a heddychlon
Mae CND Cymru yn dibynnu am arian ar aelodau a chefnogwyr. Gallwch chi helpu trwy ein cefnogi.