Symudiad Cop26 – 6 Tachwedd 2021
Cerddodd CND Cymru ochr yn ochr â’r llu o grwpiau amgylcheddol a chyfiawnder a ymunodd â gwrthdystiad Cop26 yng Nghaerdydd, a drefnwyd gan Climate Cymru. Cychwynnodd yr orymdaith o Neuadd y Ddinas ac ymlaen i’r Senedd ym Mae Caerdydd. Ar risiau’r Senedd, pwysleisiodd Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru, Bethan Siân, y cysylltiadau rhwng arfau niwclear, y fyddin a newid hinsawdd.
Credit llun: Mission Photographic Ltd.