Mae EdF, Energie di France, yn bwriadu codi 600,000m3 o waddod o Fae Bridgewater i’r wyneb, ac wedyn i ddympio’r mwd oddi wrth Bae Caerdydd, yn 2021. Mae’r mwd yn cynnwys popeth a daeth allan o’r pibellau llif allan dros y 50 blynedd diwethaf o’r atomfeydd Hinkley Point A a B.
Rydyn ni’n credu does dim digon o ymchwil wedi cael eu gwneud er mwyn i ni gredu fod y mwd yn ddiogel, heb ronynnau ymbelydrol, ac felly rydyn ni’n gwrthwynebu’r ddympio o’r mwd yn Fae Caerdydd, rhag ofn i’r ymbelydredd effeithio ar yr amgylchedd morol ac arfordir.
Crynodeb o Gyflwyniad CND Cymru i gyn-ymgynghoriad CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) yn Saesneg yn unig
Gyflwyniad CND Cymru i gyn-ymgynghoriad CNC (50+ tudalenni) yn Saesneg yn unig
Y 190,000 tunelli “codi a dwmpio” gan EdF yn 2018
Ar gael yma (yn Saesneg yn unig) yw’r ymchwil ar y mwd gan Tim Deere-Jones, a chyflwynwyd i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cymreig ar 17eg Mis Tachwedd 2017. Hefyd, mae ei ymchwil ar dystiolaeth EdF ar gael yma (hefyd yn Saesneg yn unig).
Mae EdF yn eisiau codi’r mwd o Fae Bridgewater er mwyn gosod y pibellau llif allan o’r atomfa awgrymedig Hinkley Point C, ac er mwyn gosod sylfeini am lanfa ar y safle, er mwyn iddyn nhw ddod a rhannau o’r atomfa yn syth i’r safle. Rydyn ni’n credu y dylai EdF cadw’r mwd ar y tir ar ôl codi’r gwaddod, lle gallent nhw arolygu’r mwd yn hawdd.